Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Sgwrsio: Isabella Colby Browne

Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Show Notes

‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Isabella Colby Browne, enillydd Medal Bobi Jones yn Eisteddfod yr Urdd ym Meifod eleni. Cafodd Isabella ei geni yn America cyn symud i’r Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.

More from Y Podlediad Dysgu Cymraeg

Oct 14, 2026

Yn y podlediad newydd yma o’r enw ‘Agor y Drws’, mae Nia Parry yn cwrdd â siaradwyr Cymraeg newydd ac yn clywed am eu bywydau, eu taith a'r cyfleoedd mae dysgu Cymraeg wedi'i roi iddyn nhw. Heddiw, mae Nia yn ‘agor y drws’ i'r cyflwynydd, y crëwr cynnwys ar y platfformau digidol a'r DJ Katie Owen. Geirfa: blaidd - wolf cyfarth – to bark direidus - mischievous cyffrous – exciting uchafbwynt(iau)- highlight(s) miloedd – thousands mynd amdani – to go fo it bwydo – to feed her(iau) – challenge(s) cymysgu – to mix, to mix up tyfu – to grow neges destun – text darlledu – to broadcast cyflwynydd - presenter o’r corrun i’r sawdl – from head to toe balch – proud dywediad - saying Gorau Cymro, Cymro oddi cartref (idiom) – A Welshman away from home is a stronger Welshman ar dân – on fire model(au) rôl – role model(s) dramor – abroad chwifio’r faner – to fly the flag darganfod – to discover bywyd – life hyder – confidence hyderus – confident perthyn – to belong to methu curo hynna – can’t beat that gofalus – careful emosiynol – emotional adennill – to reclaim magwraeth – upbringing plentyndod – childhood crëwr cynnwys – content creator llysgennad – ambassador hyrwyddo – to promote dylanwad – influnece ysbrydoli – to inspire llysfam – stepmother credu – to believe

Oct 7, 2026

Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Medi 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. Clip 1 Gwobr: Award Ail-ddechrau: Restarting Croesi bysedd: Crossing fingers Amserol: Timely Cyfryngau cymdeithasol: Social media Dibwys: Unimportant Cysylltiadau: Connections Ynganiad: Pronunciation Clip 2 Eirin Mair: Gooseberries Mafon: Raspberries Mefus: Strawberries Mwyar duon: Blackberries Bricyll eirin: Apricots a dyma rhai o’r geiriau eraill sy’n codi yn y clip Arllwys: To pour Sur: Sour Clip 3 Sylweddoli: To realise Rhoi lan- ffordd arall o ddweud - Rhoi’r gorau i Cripad draw: Crawling over Dim cyffro: No excitement Ar bwys - ffordd arall o ddweud - Wrth ymyl Cydweithwyr: Co-workers Y ddau gywair: Both keys Clip 4 Cynulleidfa: Audience Cyfres: Series Anferthol: Huge Edau: Thread Y gweledol: The visual Cynhyrchydd: Producer Ffawd: Fate Ymadrodd: A saying Cyfforddusrwydd: Comfort Cymro i’r carn: Welsh through and through Clip 5 Offeryn: Instrument Sain: Sound Arbrofi: To experiment Tynn a chymhleth: Tight and complicated Dwlu ar - ffordd arall o ddweud - Wrth fy modd efo Dylanwadu: To influence Clip 6 Pawennau Bywiog: Lively paws O nerth i nerth: From strength to strength Godidog: Splendid Her: A challenge Arolwg: Survey Ymateb: Response Galw: Demand Mynd bant - ffordd arall o ddweud - Mynd i ffwrdd Rheolaidd: Regular Achlysurol: Occasional Gwarchod: To look after Clip 7 Trin buwch: To treat a cow Cwympo trowsus: To drop the trousers Meddyginiaeth: Medicine Awgrymu: To suggest Clip 8 Mae hi’n fraint: It’s an honour Coelio - gair arall am - Credu Parchus: Respectful

Sep 9, 2026

Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda'r gyflwynwraig, awdures ag ymgyrchydd hawliau merched Jess Davies. Fe symudodd Jess i Benrhyncoch o Loegr yn ferch ifanc ac er iddi ddysgu'r iaith yn yr ysgol Gynradd fe gollodd hi hyder yn y Gymraeg tra bod hi yn yr Ysgol Uwchradd a'r Brifysgol. Mae hi bellach wedi ail-ddarganfod yr iaith ac yn cyfrannu i raglenni ar S4C a Radio Cymru. Mae hi hefyd yn cyd-gyflwyno y podlediad Shame on Who with Jess and Joey.

Sep 8, 2026

Mae Pigion yn bodlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst 2026 yng nghwmni Aled Hughes a Nia Lloyd Jones. Clip 1 Bwrlwm: A buzz Diwylliant: Culture Gwirfoddolwyr: Volunteers Yr her: The challenge Brwdfrydedd: Enthusiasm Chwilfrydig: Curious Agwedd: Attitude Amlwg: Prominent Clip 2 Anwybyddu: To ignore Olrhain hanes y teulu: Tracing the family history Atyniad amaethyddol: An agricultural attraction Crefyddol: Religious Meddiannu: To occupy Clip 3 Sylwebydd: Commentator Cyfreithiwr: Solicitor Barnwr: A Judge Trosedd: Crime Wedi brathu: Had bitten Ynadon: Magistrates Rhybudd: A warning Cael ei ddifa: Destroyed Y diffynnydd: The defendant Hepian: To doze Clip 4 Darganfod: Discover Sa i’n siŵr - ffordd arall o ddweud - Dw i ddim yn siwr Cw(y)mpo mas: To fall out Gwartheg godro: Milking cows Clip 5 Cyflwynydd: Presenter Creadigol: Creative Y tu ôl i’r llen: Behind the curtain Y llwyfan: The stage Dealltwriaeth: Understanding Cyfarwyddo: To direct Arddangos: To show Yr heriau: The challenges Wynebu: Facing Sioe gerdd: Musical theatre Clip 6 Llysgenhadon: Ambassadors Pwysigrwydd: Importance Mewn gwirionedd: In reality Trobwynt: Turning point Cyfeiriadau: References Dagrau o hapusrwydd: Tears of Joy Clip 7 Tannau gwyllt: Wildfires Cyfandir: Continent Yn gyson: Regularly Bygythiad: Threat Do’sna’m - ffordd byr o ddweud - Does yna ddim Pori: To graze Priciau tan: Firewood Egni: Energy Llystyfiant sych: Dry vegetation Clogwyni: Cliffs Clip 8 Ieir: Hens Cywion: Chicks Cadno - Llwynog i ni yn y gogledd a - Fox yn Saesneg Ffawd digon addas: A quite appropriate fate

Aug 12, 2026

Yn y bennod yma mae Nick yn sgwrsio gyda Mila Maxon a gafodd ei geni yn Llundain cyn symud i Ffrainc ac yna Seland Newydd lle cafodd hi ei magu. Mae hi'n byw yng Nghaerdydd ers rhyw dair mlynedd ac fe gafodd hi ei denu i ddysgu Cymraeg ar ol gweld y gyfres deledu "Y Gwyll".

See all episodes →