Siarad Siop efo Mari a Meilir

78 - Haul, Tafwyl ac hen-dŵs

Siarad Siop efo Mari a Meilir

Show Notes

Mae'r tywydd yn boeth ond mae'r sgwrs yn boethach! Mae'r Prif Weinidog yn Llundain wedi penderfynu camu i'r neilltu, mae gŵr Katie Price bellach yn saff ac mae'r blwch ceisiadau bron a byrstio yn y gwrês. Mae'n rhy boeth i 'sgwennu mwy. I mewn â chi i'r siop, reit handi! Mae ganddom ni AC.

More from Siarad Siop efo Mari a Meilir

Oct 22, 2026

Wedi wythnos o seibiant ar ôl y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth, mae Mari a Meilir yn ôl gyda sioe llawn dop i chi o holl ddigwyddiadau a straeon y pythefnos diwethaf. O saga Kelly Clarkson a'r tegan, sêr Cymru mewn cynhyrchiadau comics mwya'r byd a'r protestiadau yn Ffrainc. Mewn â chi i'r siop, mae hi'n oer tu allan!

Oct 8, 2026

Mae hi'n wythnos y sioeau byw yn y Bala ac Aberystwyth ac mae'r siop yn llawn bwrlwm yr wythnos hon wrth i Mari a Meilir baratoi ar gyfer y penwythnos. Ond hefyd rhaid trafod gwobrau'r BAFTAs Cymru, recordiad Dracula newydd Jonathan Bailey a chreision blâs cyw iâr...! Dewch i mewn, mae'r siop ar agor.

Oct 1, 2026

Gofynnwch a chwi a gewch - ma hi'n bennod swmpus arall yr wythnos hon wrth i ni drafod holl ddigwyddiadau'r wythnos, gan gynnwys gwobrau'r VMAs, cerddoriaeth newydd Taylor Swift ac achos y Cornell 7. Dewch i mewn i'r siop am sgwrs! Rhybudd Cynnwys: Mae'r bennod hon yn cynnwys trafodaeth am drais.

Sep 24, 2026

Mae'r Hydref wedi cyrraedd ac mae Mari'n swp sâl - ond dydi hynny ddim yn ei rhwystro rhag agor y Siop efo Meilir yr wythnos hon. Mae dyletswydd ganddynt i drafod a gwyntyllu gossip yr wythnos. O burner account honedig Channing Tatum, canslo taith Misteeq i gynhyrchiad newydd yr RSC o As You Like It. Gwnewch baned a swatiwch, mae'r Siop ar agor!

Sep 17, 2026

Rhag-rybudd: roedd Mari a Meilir yn teimlo'n siaradus IAWN yr wythnos hon felly mae hon yn bennod hirach fyth na'r arfer. Ond yr ôll ddigwyddodd dros yr wythnos ddiwethaf, gallwch chi ddeall pam. O daith ddadleuol Ed Sheeran, drama ym mhlaid R€form Cymru i lwyddiant hanesyddol Matthew Rhys yn ngwobrau yr Emmy's - mae yna gymaint i'w drafod. Felly strap in, folks - dewch i mewn i'r siop!

See all episodes →