
Show Notes
Os ydech chi fel fi yn joio clywed straeon pobl a chael cael cipolwg tu ôl y llenni yn eu bywyd a’i gwaith bob dydd, dwi’n meddwl mai Siarad Siop - Shop Talk ydy’r podlediad i chi.
Ymunwch efo fi, Heulwen Davies yn fy ystafell gyfarfod rhithiol, ac ym mhob pennod byddai’n cwrdd â rhywun sydd unai’n rhedeg busnes neu’n arwain sefydliad Cymraeg.
Byddai’n busnesa ymhob twll a chornel o’i byd, yr uchafbwyntiau, eu cyfrinachau a mwy! Does na ddim sgript, dim filter dim ond sgwrs agored a gonest!
Mae podlediad Siarad Siop - Siop Talk ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn rhan o wasanaeth Ffenest Siop gan Llais Cymru.
Mae podlediad Siarad Siop - Shop Talk yn rhan o wasanaeth Ffenest Siop gan Llais Cymru, gwasanaeth siop un stop i helpu pawb i ddod o hyd i ac i gefnogi busnesau a gwasanaethau sy’n cynnig darpariaeth yn y Gymraeg, ac i ddod o hyd i swyddi a chyfleoedd yn y Gymraeg.
I ddarganfod mwy ewch i www.ffenestsiop.cymru
---
The Siarad Siop - Shop Talk podcast is part of Llais Cymru’s bilingual Ffenest Siop platform, a one stop shop which helps everyone to find, access and support Welsh language businesses and services, and discover Welsh language jobs and opportunities.
To discover more go to www.ffenestsiop.cymru
More from Siarad Siop - Shop Talk
Sut mae adnabod yr arwyddion bod ti’n gorweithio ac ar y fordd i ‘burnout’? Ydy’n bosibl rhedeg busnes a gweithio’n llawn amser? Dyma rhai o’r pethau fydd Heulwen Davies, perchennog Llais Cymru a Ffenest Siop yn trafod gyda Lucy, perchennog Don’t Sweat it Betty, cwmni dillad a nwyddau Cymraeg o ardal Pen y Bont. Mae fersiwn Saesneg o’r podlediad yma hefyd ar gael.
How do you know if you’re on the road to burnout? Is it physically possible to work full time and run a business? These are just a few of the things that Heulwen Davies, CEO of Llais Cymru and Ffenest Siop will be discussing with Lucy, owner of Welsh clothing and gifts company Don’t Sweat it Betty from Bridgend, Wales. This podcast is also available in Welsh.
Yn y bennod hon o Siarad Siop – Shop Talk, mae Heulwen Davies, Cyfarwyddwr Cwmni Marchnata a PR Llais Cymru, yn sgwrsio gyda Ani o fusnes dillad ac anrhegion Ani-bendod.
In this episode of the bilingual Siarad Siop – Shop Talk podcast, Heulwen Davies, Director of marketing and PR company Llais Cymru chats to Ani, founder of clothing and gifts company Ani-bendod.
Yn y bennod gyntaf o Siarad Siop - Shop Talk, mae Heulwen Davies, Cyfarwyddwr Llais Cymru yn sgwrsio gyda’r perchennog busnes ifanc Rhodri Lewis o Sir Gâr, am ei fusnes newydd ‘Arwain’.