Hanes Mawr Cymru

Y Gymraeg

Hanes Mawr Cymru

Show Notes

Mae’r iaith Gymraeg wedi wynebu sawl her a chyfnod anodd. Felly sut y gwnaeth hi oroesi? Dewch ar daith drwy'r canrifoedd i ddysgu mwy... Awdur: Llinos Mai Cynorthwydd sgript: Siân Rhiannon Williams Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill

More from Hanes Mawr Cymru

Feb 23, 2026

Llinos Mai sy'n cyflwyno Hanes Mawr Cymru, podlediad hanes i blant 9-12 oed. Yn y bennod yma, mae'n dweud hanes ein nawddsant, Dewi Sant. Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)

Feb 16, 2026

Llinos Mai sy'n dod â hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. Yn y bennod hon, rydyn ni'n dysgu popeth am y dyn a ddyfeisiodd Yr Urdd - Syr Ifan ab Owen Edwards.

Feb 9, 2026

Llinos Mai sy'n dod â hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. Gadewch i ni fynd ar antur gyda'r arloeswr, naturiaethwr, gwyddonydd ac anthropolegwr o Frynbuga, Alfred Russell Wallace. Rydyn yn clywed am ei daith i’r Amazon i chwilio am rywogaethau newydd, darganfod broga sydd yn gallu hedfan yn Ynysfor Maleia, a sut y cafodd syniad pwysig iawn tra’n sâl yn y gwely. O ie, ac mae Darwin hefyd yn ymddangos! Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions Ltd).

Jan 26, 2026

Rydym wedi clywed llawer am Emmeline Pankhurst ond tybed faint sydd wedi clywed am swffragét Cymraeg o Lanwern ger Casnewydd, yr Arglwyddes Rhondda, Margaret Haig Thomas? Roedd hi'n swffragét blaenllaw, yn wraig fusnes byd-eang, yn olygydd, yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb menywod, ac oedd ar fwrdd yr RMS Lusitania pan suddodd yn Mor yr Iwerydd gan oroesi trwy ddal 'mlaen gafael ar ddarn o bren yn y môr rhewllyd am oriau. Am fenyw! Llinos Mai sy'n dod â Hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân.

Jan 19, 2026

Llinos Mai sy'n cyflwyno Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed. Pwy oedd Iolo Morgannwg a beth yw ei gysylltiad gyda'n diwylliant ni heddiw? Ac o ble ddaeth y cerddi cafodd eu "darganfod" gan Iolo? Gwrandewch i gael yr ateb! Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)

See all episodes →