
Show Notes
Bethan Rhys Roberts a'r gohebydd gwleidyddol Elliw Gwawr sy'n trafod dechrau'r tymor gwleidyddol newydd. Mae'r ddwy yn dadansoddi sesiwn PMQs cyntaf y Prif Weinidog Andy Burnham cyn troi at gynhadledd i'r wasg Llywodraeth Cymru. Ydy'r cyfnod mis mêl ar ben i'r ddau Brif Weinidog newydd? Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]
More from Gwleidydda
Yr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno â Vaughan, Bethan a Richard i drafod ei ddadansoddiad o berfformiad Llywodraeth Plaid Cymru ym Mae Caerdydd. Mae'r tri hefyd yn trafod araith Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ynglyn â datganoli pellach i Gymru a phenderfyniad y Llywodraeth i ohirio'r newidiadau yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn ar gyfer rhaglenni'r dyfodol drwy e-bostio [email protected].
Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod cytundeb Llywodraeth Plaid Cymru gyda'r Blaid Lafur wedi dod i gytundeb ar y gyllideb atodol.
Ar ol i'r Blaid Lafur ennill is-etholiad Holborn a St Pancras gydag arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr Zack Polanski yn dod yn ail - mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r canlyniad a beth mae'n golygu i arweinyddiaeth Polanski.
Mae triawd y buarth yn ôl! Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n holi'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones.
Alun Davies, cyn-weinidog o Lywodraeth Lafur Cymru a’r cyn-ymgeisiydd, Owain Williams sy’n ymuno â Bethan a Richard i drafod cynhadledd y blaid yn Lerpwl. Mae’r pedwar yn dadansoddi araith Andy Burnham a chyfeiriad y blaid Lafur yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]