
Show Notes
Wrth i sgandal Peter Mandelson parhau i ddominyddu’r agenda gwleidyddol, mae Vaughan a Richard yn trafod sgandalau gwleidyddol dros y blynyddoedd.
Mae'r ddau hefyd yn trafod ymgyrch y pleidiau yn yr isetholiad yn Gorton a Denton.
Ac os oes gyda chi unrhyw gwestiwn i'r ddau cofiwch fod modd cysylltu trwy e-bostio [email protected]
More from Gwleidydda
Yr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno â Vaughan, Bethan a Richard i drafod ei ddadansoddiad o berfformiad Llywodraeth Plaid Cymru ym Mae Caerdydd. Mae'r tri hefyd yn trafod araith Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ynglyn â datganoli pellach i Gymru a phenderfyniad y Llywodraeth i ohirio'r newidiadau yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn ar gyfer rhaglenni'r dyfodol drwy e-bostio [email protected].
Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod cytundeb Llywodraeth Plaid Cymru gyda'r Blaid Lafur wedi dod i gytundeb ar y gyllideb atodol.
Ar ol i'r Blaid Lafur ennill is-etholiad Holborn a St Pancras gydag arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr Zack Polanski yn dod yn ail - mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r canlyniad a beth mae'n golygu i arweinyddiaeth Polanski.
Mae triawd y buarth yn ôl! Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n holi'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones.
Alun Davies, cyn-weinidog o Lywodraeth Lafur Cymru a’r cyn-ymgeisiydd, Owain Williams sy’n ymuno â Bethan a Richard i drafod cynhadledd y blaid yn Lerpwl. Mae’r pedwar yn dadansoddi araith Andy Burnham a chyfeiriad y blaid Lafur yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]