
Show Notes
Ar ôl buddugoliaeth hanesyddol i'r Blaid Werdd yn is-etholiad Gorton and Denton mae Vaughan a Richard yn trafod arwyddocâd y canlyniad. Mae Gareth Hughes o'r Blaid Werdd hefyd yn ymuno â'r ddau i drafod beth all hyn golygu ar gyfer etholiad Senedd Cymru ym mis Mai.
More from Gwleidydda
Yr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno â Vaughan, Bethan a Richard i drafod ei ddadansoddiad o berfformiad Llywodraeth Plaid Cymru ym Mae Caerdydd. Mae'r tri hefyd yn trafod araith Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ynglyn â datganoli pellach i Gymru a phenderfyniad y Llywodraeth i ohirio'r newidiadau yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn ar gyfer rhaglenni'r dyfodol drwy e-bostio [email protected].
Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod cytundeb Llywodraeth Plaid Cymru gyda'r Blaid Lafur wedi dod i gytundeb ar y gyllideb atodol.
Ar ol i'r Blaid Lafur ennill is-etholiad Holborn a St Pancras gydag arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr Zack Polanski yn dod yn ail - mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r canlyniad a beth mae'n golygu i arweinyddiaeth Polanski.
Mae triawd y buarth yn ôl! Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n holi'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones.
Alun Davies, cyn-weinidog o Lywodraeth Lafur Cymru a’r cyn-ymgeisiydd, Owain Williams sy’n ymuno â Bethan a Richard i drafod cynhadledd y blaid yn Lerpwl. Mae’r pedwar yn dadansoddi araith Andy Burnham a chyfeiriad y blaid Lafur yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]