Gwleidydda

Fformiwla Burnham?

Gwleidydda

Show Notes

Bethan Rhys Roberts, Richard Wyn Jones ac Elliw Gwawr sy'n craffu ar fformiwla Barnett yr wythnos hon. Mae'r tri yn trafod pa mor deg yw'r fformiwla i Gymru a pa mor debygol yw Prif Weinidog nesaf y Deyrnas Unedig o newid y drefn. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn trwy e-bostio [email protected]

More from Gwleidydda

Oct 21, 2026

Yr Arglwydd Dafydd Wigley sy'n ymuno â Vaughan, Bethan a Richard i drafod ei ddadansoddiad o berfformiad Llywodraeth Plaid Cymru ym Mae Caerdydd. Mae'r tri hefyd yn trafod araith Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, ynglyn â datganoli pellach i Gymru a phenderfyniad y Llywodraeth i ohirio'r newidiadau yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn ar gyfer rhaglenni'r dyfodol drwy e-bostio [email protected].

Oct 14, 2026

Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n trafod cytundeb Llywodraeth Plaid Cymru gyda'r Blaid Lafur wedi dod i gytundeb ar y gyllideb atodol.

Oct 9, 2026

Ar ol i'r Blaid Lafur ennill is-etholiad Holborn a St Pancras gydag arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru a Lloegr Zack Polanski yn dod yn ail - mae Vaughan a Richard yn dadansoddi'r canlyniad a beth mae'n golygu i arweinyddiaeth Polanski.

Oct 7, 2026

Mae triawd y buarth yn ôl! Vaughan Roderick, Bethan Rhys Roberts a Richard Wyn Jones sy'n holi'r cyn-ddirprwy Brif Weinidog, Ieuan Wyn Jones.

Sep 30, 2026

Alun Davies, cyn-weinidog o Lywodraeth Lafur Cymru a’r cyn-ymgeisiydd, Owain Williams sy’n ymuno â Bethan a Richard i drafod cynhadledd y blaid yn Lerpwl. Mae’r pedwar yn dadansoddi araith Andy Burnham a chyfeiriad y blaid Lafur yng Nghymru. Cofiwch fod modd cysylltu gydag unrhyw gwestiwn i'r dyfodol trwy e-bostio [email protected]

See all episodes →