
Show Notes
Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân. Yn y bennod hon, mae Llinos yn archwilio popeth roeddech chi eisiau ei wybod am y Celtiaid. Pwy oedden nhw? Ble redden nhw’n byw? Sut oedden nhw'n byw? A pham roedd trwsus mor bwysig iddyn nhw? Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions) Dylunio: Hefin Dumbrill
More from Hanes Mawr Cymru
Llinos Mai sy'n cyflwyno Hanes Mawr Cymru, podlediad hanes i blant 9-12 oed. Yn y bennod yma, mae'n dweud hanes ein nawddsant, Dewi Sant. Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)
Llinos Mai sy'n dod â hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. Yn y bennod hon, rydyn ni'n dysgu popeth am y dyn a ddyfeisiodd Yr Urdd - Syr Ifan ab Owen Edwards.
Llinos Mai sy'n dod â hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. Gadewch i ni fynd ar antur gyda'r arloeswr, naturiaethwr, gwyddonydd ac anthropolegwr o Frynbuga, Alfred Russell Wallace. Rydyn yn clywed am ei daith i’r Amazon i chwilio am rywogaethau newydd, darganfod broga sydd yn gallu hedfan yn Ynysfor Maleia, a sut y cafodd syniad pwysig iawn tra’n sâl yn y gwely. O ie, ac mae Darwin hefyd yn ymddangos! Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions Ltd).
Rydym wedi clywed llawer am Emmeline Pankhurst ond tybed faint sydd wedi clywed am swffragét Cymraeg o Lanwern ger Casnewydd, yr Arglwyddes Rhondda, Margaret Haig Thomas? Roedd hi'n swffragét blaenllaw, yn wraig fusnes byd-eang, yn olygydd, yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb menywod, ac oedd ar fwrdd yr RMS Lusitania pan suddodd yn Mor yr Iwerydd gan oroesi trwy ddal 'mlaen gafael ar ddarn o bren yn y môr rhewllyd am oriau. Am fenyw! Llinos Mai sy'n dod â Hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân.
Llinos Mai sy'n cyflwyno Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed. Pwy oedd Iolo Morgannwg a beth yw ei gysylltiad gyda'n diwylliant ni heddiw? Ac o ble ddaeth y cerddi cafodd eu "darganfod" gan Iolo? Gwrandewch i gael yr ateb! Awdur: Llinos Mai Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence Golygydd sgript: Rhys ap Trefor Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)