Yr Hen Iaith

Pennod 95 - ‘A Natur sy’n canu ei hanthem i mi’: Islwyn a’i ‘Storm’

Yr Hen Iaith

Show Notes

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Yn ôl Glyn Tegai Hughes, hwn oedd bardd Cymraeg gorau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ond er i Islwyn ennill enw fel bardd o bwys yn ystod ei oes trwy gystadlu’n aml mewn eisteddfodau ac ati, nid oes llawer sy’n arbennig am yr holl farddoniaeth eisteddfodol hon. Mae’r bardd hwn yn haeddu lle anrhydeddus yn hanes llenyddiaeth Gymraeg oherwydd un gerdd a gyfansoddodd, ‘Y Storm’. Ond mae’r gerdd honno’n hir iawn – dros 6,000 o linellau! Dim ond ar ôl i Islwyn farw y cyhoeddwyd y bryddest fawr, a chafodd ddylanwad mawr ar genhedlaeth arall o feirdd Cymraeg. Myfyriwn ynghylch rhai dyfyniadau dethol wrth i ni gnoi cil ar natur unigryw y gerdd uchelgeisiol hon.

** ‘And it’s Nature who’s singing its anthem to me’: Islwyn and his ‘Storm’

We discuss William Thomas (1832-1878) in this episode, a poet remembered as ‘Islwyn’.

According to Glyn Tegai Hughes, he was the best Welsh-language poet of the nineteenth century. But although Islwyn won a name as a poet of significance during his lifetime by competing often in eisteddfodau and etc., there is not much of worth in all of this eisteddfodic poetry. This poet deserves an honoured place in the history of Welsh literature because of one poem he composed, ‘The Storm. But this poem is very long – over 6,000 lines! It was only after Islwyn died that the great pryddest was published, and it had a big influence on another generation of Welsh poets. We consider a few choice quotes as we mull over the unique nature of this ambitious poem.

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Darllen Pellach/Further Reading: - ‘Y Storm’ Gyntaf gan Islwyn, gol. Meurig Walters (1980). - Glyn Tegai Hughes, ‘Islwyn and Y Storm’, in Hywel Teifi Edwards (ed.), A guide to Welsh literature c. 1800-1900 (2000). - Meredydd Evans, ‘Y Storm’ gyntaf (1988). - Alun Llwelyn-Williams, Y Nos, Y Niwl a’r Ynys [:] Agweddau ar y Profiad Rhamantaidd yng Nghymru 1890-1914 (1960).

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

Aug 13, 2026

Wedi ystyried gwrthwynebiad rhai Cymry Ymneilluol i’r nofel mewn ambell bennod ddiweddar, cawn yn y bennod hon gyfle i ddechrau trafod Daniel Owen, nofelydd Cymraeg mwyaf llwyddiannus y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

See all episodes →