Yr Hen Iaith

Pennod 97 - Iwtopia Bardd a Beirniadaeth Ysgolhaig: John Morris-Jones

Yr Hen Iaith

Show Notes

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Nodwn fod JMJ yn ddarlithydd ifanc yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru (Prifysgol Bangor bellach) a bod ei yrfa yn dechrau tuedd sy’n parhau’n rhan o’r Adran Gymraeg honno, gyda’i staff yn pontio rhwng ymchwil academaidd ac ysgrifennu creadigol. Awn ati wedyn i drafod y modd y defnyddiai’r darlithydd ifanc hwnnw ei ddysg i wasanaethu’r genedl mewn modd ymarferol hefyd, ac yntau’n gadeirydd y pwyllgor a geisiai sefydlogi orgraff yr iaith Gymraeg. Gwelwn hefyd fod rhyddiaith academaidd JMJ yn bell o fod yn sych a’i fod yn bell o fod yn burydd iaith ystrydebol!

* A Poet’s Utopia and a Scholar’s Criticism: John Morris-Jones

Contrasting sharply with the long-winded pryddestau of the ‘New Poets’ whom were discussed in the last episode, we begin this time with ‘Cymru Fydd’, the finely-wrought awdl by John Morris-Jones (1864-1929). But while stressing the elegance and economy of language which characterizes JMJ’s poems, we must pause once again and discuss the interwovenness of that nationalistic movement (Cymru Fydd) and Welsh literature in the 1890s. We find that this awdl strikes a utopian tone as well as presenting pointed criticism of capitalism.

We note that JMJ was a young lecturer in the University College of North Wales (now Bangor University) and that his career began a tendancy which continues to be part of that Welsh Department’s culture, with staff bridging between academic research and creative writing. We then turn to discuss the way in which this young lecturer used his learning to serve the nation in a practical way as chair of the committee which sought to standardize Welsh orthography. We also see that JMJ’s academic prose is far from being dry!

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Darllen Pellach/Further Reading: - Allan James, John Morris-Jones (2011). - Huw Walters, John Morris-Jones, 1864-1929: Llyfryddiaeth Anodiadol (1987). - Richard Wyn Jones, Rhoi Cymru’n Gyntaf: Syniadaeth Wleidyddol Plaid Cymru, cyfrol 2 (yn ymddangos yn 2027). Caiff mudiad Cymru Fydd lawer o sylw yn y gyfrol hon.

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

Aug 13, 2026

Wedi ystyried gwrthwynebiad rhai Cymry Ymneilluol i’r nofel mewn ambell bennod ddiweddar, cawn yn y bennod hon gyfle i ddechrau trafod Daniel Owen, nofelydd Cymraeg mwyaf llwyddiannus y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

See all episodes →