Yr Hen Iaith

Pennod 94 - Profedigaethau Enoc Huws: Daniel Owen (rhan 2)

Yr Hen Iaith

Show Notes

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

Dechreuwn gyda brawddeg agoriadol y nofel – o bosibl y frawddeg enwocaf yn holl hanes ffuglen Gymraeg – ac ystyried arwyddocâd y feirniadaeth gymdeithasol y mae’n gerbyd iddi. Dyma’r nofelydd o’r Wyddgrug ar ei orau, ac yntau’n awdur a oedd yn ddigon dewr ac yn ddigon hyderus i edrych yn feirniadol ar ei gymdeithas ei hun. Mae hefyd yn dychanu diwylliant llenyddol Cymraeg cyfoes a’r traddodiad crefyddol yr oedd yn perthyn iddo. Rhyfeddwn wrth sylwi bod llawer o ddychan y nofel yn ymddangos yn hynod gyfoes, a Richard Wyn Jones yn gweld Susi Trefor fel influencer arwynebol ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw!

* The Tribulations of Enoc Huws: Daniel Owen (part 2)

We have fun in this episode while discussing Daniel Owen’s satirical masterpiece, The Tribulations of Enoc Huws.

We begin with the novel’s opening sentence – possibily the most famous sentence in the entire history of Welsh fiction – and considering the social critique for which it is a vehicle. This is the novelist from Yr Wyddgrug (Mold) at his best, an author who was brave enough and confident enough to look critically at his own society. He also satirizes contemporary Welsh literary culture and the religious tradition to which he himself belonged. We are amazed as we note that much of the novel’s satire appears very contemporary, and Richard Wyn Jones sees Susi Trefor as a superficial influencer on today’s social media!

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Darllen Pellach/Further Reading: - https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llyfrau/rhyddiaith-a-nofelau/profedigaethau-enoc-huws - Rydym ni’n deall y bydd Melin Bapur yn ailgyhoeddi Profedigaethau Enoc Huws cyn bo hir.

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 13, 2026

Wedi ystyried gwrthwynebiad rhai Cymry Ymneilluol i’r nofel mewn ambell bennod ddiweddar, cawn yn y bennod hon gyfle i ddechrau trafod Daniel Owen, nofelydd Cymraeg mwyaf llwyddiannus y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

See all episodes →