Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Gwaith Argoed Llwyfain

Yr Hen Iaith

Show Notes

Mae’r bennod hon yn trafod un o’r cerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin. Ystyr y gair ‘gwaith’ yw ‘brwydr’, ac er nad ydym yn gwybod ble yn union oedd Argoed Llwyfain, mae’n sicr bod y lleoliad yn yr Hen Ogledd a bod y frwydr hon wedi digwydd tua diwedd y chweched ganrif. Roedd yn fuddugoliaeth i’r Brythoniaid ac mae’r bardd yn canmol eu harweinwyr, Urien a’i fab, Owain. Trafodwn y wedd ddramatig ar y gerdd wrth i’r bardd ail-greu sgwrs cyn y frwydr rhwng Owain a Fflamddwyn, arweinydd yr Eingl Sacsoniaid. Nodwn fod y gerdd waedlyd hon hefyd yn hoelio sylw ar swyddogaeth y bardd ei hun.

** ‘The Battle of Argoed Llwyfain’

This episode discusses one of the poems attributed to the bard Taliesin. The word ‘gwaith’ means ‘battle’, and although we don’t know where exactly Argoed Llwyfain was, it’s certain that the location was in the Old North and that this battle took place sometime towards the end of the sixth century. It was a victory for the Brittonic Celts and the bard praises their leaders, Urien and his son, Owain. We discuss the poem’s dramatic nature, as the bard recreates the discussion before the battle between Owain and Fflamddwyn, the leader of the Angl-Saxons. We note that this bloody poem also draws attention to the function of the poem himself.

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC wedi’u paratoi gan yr Athro Marged Haycock: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned02/02-gwaith-argoed-llwyfain.html http://resource.download.wjec.co.uk.s3.amazonaws.com/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/hengerdd/Taliesin/1%20Argoed%20Llwyfain/GWAITH%20ARGOED%20LLWYFAIN%20Nodiadau%20geiriau.docx

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

See all episodes →