Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith (Lefel A): Gwenllian gan Myrddin ap Dafydd

Yr Hen Iaith

Show Notes

Ystyriwn y cywydd ‘Gwenllian’ gan Myrddin ap Dafydd yn y bennod hon, gan egluro’r ddau gyd-destun hanesyddol perthnasol – diwedd llinach tywysogion Cymru yn 1282 a hanes ymgyrch yn y 1990au i greu cofeb i ferch Llywelyn ap Gruffudd, Gwenllian. Awgrymwn fod y gerdd hon yn gofeb hynod drawiadol yn ei hawl ei hun. Wrth bwysleisio bod Myrddin ap Dafydd wedi dewis mesur caeth traddodiadol, y cywydd, nodwn ei fod yn defnyddio’r mesur hwnnw mewn modd gwreiddiol. Craffwn ar arwyddocâd yr enwau lleoedd sy’n angori’r gofeb farddonol hon mewn rhan benodol o Gymru. Rhaid cyfaddef hefyd ein bod wedi’n llorio gan y tristwch sy’n hydreiddio’r gerdd bwerus hon. * We consider the poem 'Gwenllian' by Myrddin ap Dafydd in this episode, explaining the two relevant historical contexts – the end of the dynasty of the princes of Wales in 1282 and the history of a campaign in the 1990s to create a memorial to Llywelyn ap Gruffudd's daughter, Gwenllian. We suggest that this poem is a remarkably impressive memorial in its own right. In emphasising that Myrddin ap Dafydd chose a traditional strict measure, the cywydd, we note that he used that measure in an original way. We will examine the significance of the place names that anchor this poetic memorial in a particular part of Wales. It must also be admitted that we are overwhelmed by the sadness that permeates this powerful poem.

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Deunydd perthnasol: - Nodiadau CBAC: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2014-15/WJEC-14-15_12/Gwenllian.docx

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

See all episodes →