Show Notes
Dyma ni’n cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o gerddi Taliesin, ac rydym ni’n gwneud hynny trwy edrych ar Lyfr Taliesin ei hun, un o’r trysorau a gedwir yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Crëwyd y llawysgrif ryfeddol hon yn ystod hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae’n cynnwys casgliad o gerddi sy’n cael eu priodoli i’r bardd Taliesin a oedd yn canu mawl i arweinwyr ei gymdeithas yn yr Hen Ogledd yn y chweched ganrif. Mae’n ddiddorol meddwl am y cerddi hyn yn teithio trwy amser o’r cyfnod hynafol hwnnw i’r Oesau Canol wrth iddynt deithio o’r Hen Ogledd i Gymru. A digwyddodd rhywbeth arall yn ystod y daith honno hefyd: oherwydd ei statws fel un o’r cynfeirdd sy’n sefyll ar ddechrau hanes y traddodiad barddol Cymraeg, aeth Taliesin yn gymeriad chwedlonol. Felly yn ogystal â’r canu mawl hanesyddol, mae Llyfr Taliesin yn cynnwys nifer o gerddi a gysylltir â’r Taliesin chwedlonol, cymeriad gyda phwerau goruwchnaturiol sy’n ymgnawdoliad o hud a grym barddoniaeth Gymraeg.
** The Book of Taliesin
Here we introduce the episodes which discuss two of Taliesin’s poems, and we do that by looking at the Book of Taliesin itself, one of the treasures kept in the National Library of Wales. This amazing manuscript was created during the first half of the fourteenth century, but it includes a collection of poems which are attributed to Taliesin, the bard who sang praise to the leaders of his society in the Old North in the sixth century.
It’s interesting to think about these poems travelling through time from that ancient period to the Middle Ages as they travelled from the Old North to Wales. And something else happened during that journey as well: because of his status as one of the earliest poets standing at the beginning of the Welsh bardic tradition, Taliesin became a legendary character. Thus, in addition to the historical praise poetry, the Book of Taliesin contains a number of poems connected to the legendary Taliesin, a character with supernatural powers who is an incarnation of Welsh poetry’s magic and might.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Deunydd perthnasol: - Mae’n bosibl gweld y llawysgrif ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-taliesin
More from Yr Hen Iaith
Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.
Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.
Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.