Show Notes
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod ‘Ail Gainc y Mabinogi’, sef y chwedl ‘Branwen ferch Llŷr’. Rydym ni’n ystyried nifer o agweddau ar y stori gyffrous hon, gan ofyn cwestiynau diddorol am ei pherthynas â’r gymdeithas ganoloesol yr oedd yn perthyn iddi. Nodwn ei bod yn ei hanfod yn stori am briodas frenhinol, ac awgrymwn ei bod yn bosib ei darllen fel testun radicalaidd sy’n mynd i’r afael â’r wedd honno ar gymdeithas mewn modd beirniadol. Craffwn hefyd ar ymdriniaeth y chwedl â rhyfel a heddwch, gan nodi arwyddocâd y rhyfel apocalyptaidd sy’n lladd y rhan fwyaf o boblogaeth Iwerddon a’r rhan fwyaf o’r fyddin fawr sy’n croesi’r môr i achub Branwen.
** Branwen daughter of Llŷr
We have a great time in this episode while discussing ‘The Second Branch of the Mabinogi’, namely the tale of ‘Branwen daughter of Llŷr’. We consider a number of things about this exciting story, asking interesting questions about its relationship with the medieval society to which it belonged. We note that it is in essence a story about a royal marriage, and we suggest that it’s possible to read it as a radical text which addresses this aspect of society in a critical fashion. We also examine the tale’s treatment of war and peace, noting the significance of the apocalyptical war which kills most of the population of Ireland and most of the great army which crossed the sea to save Branwen.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Deunydd perthnasol: - Dyma bennod yng nghyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n trafod y chwedl: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-5-chwedl-branwen - Hefyd, mae penodau am weddill ‘Pedair Cainc y Mabinogi’ ac un sy’n trafod ‘y chwedlau brodorol’ yn gyffredinol: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-3-y-chwedlau-brodorol https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-4-chwedl-pwyll-pendefig-dyfed https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-6-manawydan-a-seiliau-cymdeithas https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-7-trafferthion-teuluol-math
- Deunydd astudio CBAC, wedi’i baratoi gan yr Athro Sioned Davies: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/index.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/23cymeriadau3.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2015-16/Adnodd%20Branwen/14themau4.html
More from Yr Hen Iaith
Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.
Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.
Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.