Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Llyfr Aneirin

Yr Hen Iaith

Show Notes

Mae’r bennod hon yn cyflwyno’r penodau sy’n trafod dwy o awdlau Canu Aneirin. Dyma ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn edrych ar Lyfr Aneirin ei hun! Ysgrifennwyd y llawysgrif hon rhwng tua 1250 a 1300. Gan ei bod yn debyg mai yn ystod blynyddoedd olaf ‘y Gymru annibynnol’ yr ysgrifennwyd hi, tybed a oes cysylltiad rhwng y cyd-destun gwleidyddol hwnnw a chynnwys y llawysgrif?! Trafodwn Y Gododdin a gofyn cwestiwn cymhleth am daith yr hen farddoniaeth hon o’r ‘Hen Ogledd’ i’r Gymru ganoloesol. Edrychwn hefyd ar nodiadau diddorol yn y llawysgrif sy’n awgrymu sut oedd rhai beirdd diweddarach yn ystyried pwysigrwydd a gwerth Llyfr Aneirin.

* The Book of Aneirin This episode prefaces the episodes which discuss two of Canu Aneirin’s awdlau. Here we are in the National Library of Wales, looking at the Book of Aneirin itself! This manuscript was written between about 1250 and 1300. As it’s likely that it was written during the final years of ‘the independent Wales, we wonder if there’s a connection between that political context and the contents of the manuscript?! We discuss the Gododdin and ask a complicated question about the journey of this old poetry from the ‘Old North’ to medieval Wales. We also look at interesting notes in the manuscript which suggest how some later poets viewed the importance and value of the Book of Aneirin.

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Deunydd perthnasol: - Gellir gweld copi digidol o Lyfr Aneirin ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/llawysgrifau/yr-oesoedd-canol/llyfr-aneirin - Adnoddau CBAC – ‘Cyflwyno’r Gododdin’ gan yr Athro Peredur Lynch: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned01/01-cyflwynor-gododdin.html

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

See all episodes →