Yr Hen Iaith

Pennod 87 - ‘Pur fel y Dur’: Y Llyfrau Gleision a Llên Benywod

Yr Hen Iaith

Show Notes

Dyma ni’n parhau i drafod effaith y ‘Llyfrau Gleision’ ar lenyddiaeth Gymraeg, gan ganolbwynio’n benodol ar lais llenyddol y Gymraes y tro hwn.

Mae teitl y bennod hon yn deyrnged i astudiaeth ardderchog Jane Aaron, Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg, cyfrol sydd, yng ngeiriau’i hawdur, yn archhwilio’r modd yr ‘ymrithiodd arwres newydd’ ‘o burdan enllib y Sais’. Awn ati i ystyried y gyfrol gyntaf o farddoniaeth Gymraeg gan fenyw a gyhoeddwyd, sef Telyn Egryn gan Elin Evans neu ‘Elen Egryn’. Edrychwn hefyd ar y rhagymadrodd gan Gwilym Hiraethog, testun sydd, ymysg pethau eraill, yn cymharu (diffyg) llenyddiaeth y Gymraes a chynnyrch llenyddol y Saesnes. Cawn gyfle wedyn i grybwyll y cyfnodolyn Y Gymraes: cylchgrawn i ferched Cymru. **

‘As Pure as Steel’: The Blue Books and Women’s Literature

We continue to discuss the effect of the ‘Blue Books’ on Welsh literature, concentrating this time on the Welsh woman’s literary voice.

This episode’s title pays tribute to Jane Aaron’s excellent study Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (‘As Pure as Steel: The Welsh woman in Women’s Literature of the Nineteenth Century’), a volume which, in the words of its author, examines the way in wich ‘a new heroine appeared’ ‘from the purgatory of the Englishman’s slander’. We consider the first volume of Welsh poetry published by a woman, namely Telyn Egryn by Elin Evans or ‘Elen Egryn’. We also look at Gwilym Hiraethog’s introduction to the book, a text which, in addition to other things, compares (the lack of) literature by Welsh women with English women’s literary produce. We then get an opportunity to mention the periodical Y Gymraes: cylchgrawn i ferched Cymru (‘The Welshwoman: a journal for women’).

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Darllen Pellach/Further Reading: - Jane Aaron, Pur fel y Dur[:] Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1998). - Elen Egryn, Telyn Egryn (1850, adargraffiad Gwasg Honno, 1998). - Gellir gweld y ‘Llyfrau Gleision’ ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/europeana-rise-of-literacy/y-llyfrau-gleision/report-of-the-commissioners-of-inquiry-into-the-state-of-education-in-wales

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

See all episodes →