Yr Hen Iaith

Pennod 75 - ‘Bro coedydd, gelltydd gwylltion’: Dechreuadau Llenyddiaeth Gymraeg America

Yr Hen Iaith

Show Notes

Bydd dilynwyr Yr Hen Iaith yn gyfarwydd iawn â’r modd y mae Richard Wyn Jones yn agor pob pennod trwy sôn am ‘hogyn o Ohio’ sy’n dysgu ‘hogyn o sir Fôn’ am hanes llenyddiaeth ei iaith ei hun. Dyma bennod a recordiwyd yn Ohio, a hynny o flaen cynulleidfa fyw fel rhan o gynhadledd NAASWCH eleni.

Gan ein bod ni wedi gorffen y bennod ddiwethaf trwy sôn am ddiwedd oes Goronwy Owen yn Virginia, ailgydiwn yn y stori honno a thrafod yr unig gerdd a gyfansoddwyd gan y bardd enwog o Fôn yn America sydd wedi goroesi. Ond yn gyntaf rydym ni’n trafod y testunau Cymraeg cynharaf a ysgrifennwyd yn America – gan ddechrau â barddoniaeth gan forwyr o Gymru a gyfansoddwyd yn y Caribî. Dyma gyfle i ddysgu ffaith ysgubol: cyhoeddwyd llyfr Cymraeg yng Ngolgedd America dros hanner canrif cyn genedigaeth y wlad newydd honno, yr Unol Daleithiau. Nodwn hefyd nad ffaith yw’r chwedl boblogaidd am y Tywysog Madog, gan wybod yn iawn y bydd y datganiad yn siom i rai pobl.

***

‘A Country of forests and wild hills’: The Beginnings of Welsh-language American Literature

Followers of Yr Hen Iaith will be very familiar with the way Richard Wyn Jones opens each episode by saying that ‘a lad from Ohio’ is teaching ‘a lad from Anglesey’ about the literature of his own Language. Here’s an episode that was recorded in Ohio, in front of a live audience as part of this year’s NAAWCH conference.

Since we finished the previous episode by talking about Goronwy Owen in Virginia, we pick up that story again and discuss the only poem which the famous poet from Anglesey composed in America which has survived. But first we discuss the earliest Welsh-language texts written in America – beginning with poetry by sailors from Wales composed in the Caribbean. Here’s an opportunity to learn an astounding fact: a Welsh-language book was published in North America more than half a century before the birth of that new Country, the United States! We also note that the popular legend about Prince Madog is not true, acknowledging that this ‘myth-busting’ will be a disappointment to some people.

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Darllen Pellach/Further Reading: - Er mwyn dysgu am NAASWCH: https://www.naaswch.wales/saesneg-home - Ellis Pugh, Annerich i’r Cymry (Philadelphia, 1721): https://www.library.wales/discover-learn/digital-exhibitions/europeana-rise-of-literacy/expatriate-literature/annerch-ir-cymry-iw-galw-oddiwrth-y-llawer-o-bethau-at-yr-un-peth-angenrheidiol-er-mwyn-cadwedigaeth-eu-heneidiau . - Jerry Hunter, ‘Y Gymraeg y tu allan i Gymru: Cipolwg ar Lenyddiaeth Gymraeg yr Unol Daleithiau, 1838-65’, yn Angharad Naylor, Llion Pryderi Roberts a Dylan Foster Evans (goln.), Beth yw’r Gymraeg? (Caerdydd, 2023): https://www.uwp.co.uk/app/uploads/9781786839503_WEB-1.pdf . - Gwyn Alf Williams, Madoc: The Making of a Myth (Rhydychen, 1987) - Pennod 4: ‘Yr Indiaid Cymreig: Y Cyfaill o’r Hen Wlad a Llên y Madogwys’ yn Jerry Hunter, Llwybrau Cenhedloedd [:] Cyd-destunoli’r Genhadaeth Gymreig i’r Tsalagi (Caerdydd, 2012). - Jerry Hunter, ‘Myth and Historiography: One Hundred and Sixty Years of Madog and the Madogwys’, yn Kristin A. Cook a Robert Lawson-Peebels (goln.), Writing the Americas, 1480-1826 (rhifyn arbennig: Yearbook of English Studies, 2016).

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

See all episodes →