Show Notes
Mae crybwyll y cysylltiadau rhwng Angharad James a Marged Dafydd yn fodd i ni ystyried y ffaith mai dim ond yn ystod y degawdau diwethaf y mae’r byd academaidd Cymraeg wedi dechrau rhoi’r sylw dyledus i farddoniaeth Gymraeg gan ferched.
Canolbwyntiwn wedyn ar waith Angharad James (1677- 1749), Cymraes amryddawn o Ddyffryn Nantlle a enillodd enw iddi’i hun fel telynores, bardd a chopïydd llawysgrifau. Cawn ein swyno gan y cynhesrwydd a’r diffuantrwydd sy’n nodweddu’i barddoniaeth hi, ac wrth ddarllen cerdd sy’n gofyn i gyfeilles ymweld â hi awgrymwn ei bod yn apelio’n fwy atom na chywydd ar yr un thema gan ei chyfoeswr enwog, Goronwy Owen. Ar ôl bwrw golwg ar gerdd hwyliog am briodas craffwn yn fanwl ar y farwnad deimladwy a gyfansoddodd yn sgil marwolaeth ei mab. Ond beth am ddirgelwch ‘Llyfr Coch Angharad James’?
*** Mentioning the connections between Angharad James and Marged Dafydd allows us to consider the fact that it is only during the past decades that Welsh academia has started giving women’s poetry the attention it deserves.
We concentrate then on the work of Angharad James (1677- 1749), a multitalented Welsh woman from the Nantlle Valley who earned a reputation as a harpist, a poet and a manuscript copyist. We are charmed by the warmth and sincerity which characterizes her poetry, and while reading a poem asking a female friend to come and stay with her we suggest that it appeals to us more than a cywydd on a similar theme by her famous contemporary, Goronwy Owen. After glancing at a lively poem about marriage, we examine the emotional elegy which she composed following the death of her son. But what about the mystery of ‘The Red Book of Angharad James’?
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan Richard Martin i Cwmni Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Darllen Pellach/Further Reading: - Cathryn Charnell-White (gol), Beirdd Ceridwen: Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (2005). - Katie Gramich a Catherine Brennan (goln.), Welsh Women’s Poetry 1460-2001 (2003). - Pennod 27 Yr Hen Iaith [Gwerful Mechain]. - Pennod 38 Yr Hen Iaith [Alis ferch Gruffudd].
More from Yr Hen Iaith
Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.
Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.
Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.