Show Notes
Canolbwyntiwn yn y bennod hon ar yr actorion a oedd yn perfformio mewn anterliwtiau, gan graffu ar nifer o destunau llenyddol sy’n taflu goleuni ar eu gwaith a’u hunaniaeth.
Yn debyg i gwmni drama heddiw, roedd cwmni anterliwt yn y ddeunawfed ganrif yn teithio o le i le ac yn llwyfannu perfformiadau mewn nifer o wahanol gymunedau. Dengys y dystiolaeth mai ‘llanciau’ oedd yr actorion hyn, dynion ifainc a gefnodd ar eu swyddi arferol dros dro er mwyn ‘canlyn anterliwt’. Awgrymwn fod yr anterliwt yn faes ffrwythlon i’r sawl sydd am astudio seiliau materol diwylliant Cymraeg y cyfnod. Awgrymwn ei fod yn faes ffrwythlon ar gyfer dadansoddiadau anthropolegol hefyd.
* ‘Talented men following a play’: The Anterliwt (part 2)
We concentrate in this episode on the actors who performed in anterliwtiau, examining a number of different literary texts which throw light on their work and their identity.
Like a theatre company today, an anterliwt company in the eighteenth century travelled from place to place and staged performances in different communities. The evidence shows that these actors were ‘lads’, young men who left their normal jobs temporarily in order to ‘follow an anterliwt’. We suggest that the anterliwt is a fruitful field for those who want to study the material foundations of Welsh culture in the period. We also suggest that it’s a fruitful field for anthropological interpretations.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Darllen Pellach/Further Reading: - Jerry Hunter, ‘Gwerth Oferedd’, Taliesin 50 (Gaeaf 2011). - G.G. Evans, ‘Yr Anterliwt Gymraeg’, Llên Cymru, cyf. 1, rhifyn 2 (Gorffennaf 1950). - G. G. Evans, ‘Yr Anterliwt Gymraeg [:] II’, Llên Cymru Cyfrol II (Gorffennaf 1953). - Dafydd Glyn Jones, ‘The Interludes’, yn Branwen Jarvis (gol.), A guide to Welsh literature c.1700-1800 (Caerdydd: Gwasg Prifsygol Cymru, 2000).
More from Yr Hen Iaith
Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.
Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.
Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.