Yr Hen Iaith

Pennod 83 - Awdl Eisteddfodol a Phroto-Nofel: Cawrdaf

Yr Hen Iaith

Show Notes

Trafodwn William Ellis Jones (1795-1848) yn y bennod hon. Ac yntau’n frodor o Abererch, Eifionydd, cymerodd enw’r sant y mae’r eglwys leol wedi’i chysegru iddo – Cawrdaf – yn enw barddol. Gweithiai fel argraffydd ac arlunydd, ond canolbwyntiwn wrth reswm ar ei weithgareddau llenyddol. Cyfansoddai nifer o awdlau ar gyfer cystadlaethau eisteddfodol, gan gynnwys ‘Hiraeth Cymro am ei Wlad’. Er na lwyddodd i ennill gyda hi yn Eisteddfod Wrecsam yn 1820, aeth hi’n awdl boblogaidd iawn yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Craffwn ychydig ar yr enghraifft wych hon o awdl eisteddfodol. Rhaid crybwyll Cawrdaf yng nghyd-destun hanes rhyddiaith greadigol Gymraeg hefyd; trafodwn y gyfrol a gyhoeddodd yn 1830, Y Bardd neu’r Meudwy Cymreig, a gofyn a yw’n bosibl mai hi yw’r nofel Gymraeg gyntaf?! **

An Eisteddfodic Awdl and a Proto-Nofel: Cawrdaf

In this episode we discuss William Ellis Jones (1795-1848). A native of Abererch in Eifionydd, he took the name of the saint to whom the local church is dedicated – Cawrdaf – as his bardic name. He worked as a printer and an illustrator, but we of course concentrate on his literary activities. He composed a number of awdlau for eisteddfodic competitions, including ‘Hiraeth Cymro am ei Wlad’ (‘A Welshman’s Longing for his Country’). Although he didn’t win with it in the 1820 Wrexham Eisteddfod, it became an extremely popular awdl in the nineteenth century.

We take a look at this excellent example of an eisteddfodic awdl. Cawrdaf deserves a place in the history of Welsh creative prose as well; we talk about the book he published in 1830 Y Bardd neu’r Meudwy Cymreig (‘The Poet or ‘the Welsh Hermit’), and ask if it’s possibe that this is the first Welsh novel?!

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Darllen Pellach/Further Reading: Cewch ddarllen Y Bardd neu’r Meudwy Cymreig ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/europeana-rise-of-literacy/llyfrau-teithio/y-bardd-neu-y-meudwy-cymreig-yn-cynwys-teithiau-difyr-ac-addysgiadol-y-bardd-gyda-rhagluniaeth

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

See all episodes →