Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Mis Mai a Mis Tachwedd

Yr Hen Iaith

Show Notes

‘Mis Mai a Mis Tachwedd’ Trafodwn un o gerddi natur Dafydd ap Gwilym yn y bennod hon, sef y cywydd enwog sy’n cyferbynnu mis Mai a’r mis ‘dig du’. Gan ystyried dwy thema gysylltiedig sy’n ganolog i waith Dafydd, cariad a natur, nodwn fod y bardd yn croesawu dyfodiad mis Mai gan ei fod yn arwyddo dechrau haf – tymor sy’n caniatáu iddo gyfarfod â’i gariad(on). Craffwn ar y modd y mae Dafydd yn personoli mis Mai ac awgrymu’i fod yn defnyddio rhai o nodweddion y canu mawl, gan wneud yr elfennau traddodiadol hyn yn rhan o’i gyfansoddiad gwreiddiol ef.

** ‘May and November’

In this episode we discuss one of Dafydd ap Gwilym’s nature poems, namely the famous cywydd which contrasts the month of May with the ‘dark angry’ month. While considering two connected themes which are central to Dafydd’s work, love and nature, we note that the poem welcomes May as it signifies the beginning of summer – the season which allows him to meet his lover(s). We examine the way in which Dafydd personifies the month of May and suggest that he uses some aspects of praise poetry, making these traditional elements part of his original composition.

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Deunydd perthnasol: - Y testun wedi’i olygu gan yr Athro Dylan Foster Evans: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned03/03-mis-mai-a-mis-tachwedd.html - Nodiadau dosbarth CBAC: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2010-11/welsh/irf10-00/cdag/3%20%20Mis%20Mai%20a%20Mis%20Tachwedd/2%20Arddull%20Mis%20Mai%20a%20Mis%20Tachwedd/Nodiadau%20dosbarth%20-%20Arddull%20Mis%20Mai%20a%20Mis%20Tachwedd.docx - Penodau cyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n canolbwyntio ar waith Dafydd ap Gwilym: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-24-meddwin-niwrbwrch-dafydd-ap-gwilym-rhan-1 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-25-caru-yn-y-coed-dafydd-ap-gwilym-rhan-2 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-26-dychan-hiwmor-a-grym-celf-dafydd-ap-gwilym-rhan-3

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

See all episodes →