Show Notes
Cewch gyflwyniad yn y bennod hon i faledi’r ddeunawfed ganrif, un o ffurfiau llenyddol Cymraeg mwyaf poblogaidd y cyfnod. Yn wir, o ystyried y nifer uchel ohonynt sydd wedi goroesi, mae’n bosib dadlau mai’r faled oedd ffurf fwyaf poblogaidd y ddeunawfed ganrif.
Ar ôl ymgodymu ychydig â’r diffiniad, awgrymwn mai’r cysylltiad rhwng y math hwn o gerdd a’r wasg argraffu yw’r ffordd orau o ddiffinio’r faled. Cerddi i’w canu oedd y baledi hyn, ffaith sy’n codi cwestiynau diddorol am y berthynas rhwng y cyfrwng llafar a phrint. Wrth ystyried cyfansoddiad gan Als Williams, nodwn fod baledwragedd yn ogystal â baledwyr, a bod merched wedi hawlio lle yn y diwydiant cyhoeddi newydd hwn.
Edrychwn ar ddwy faled gan Huw Jones o Langwm hefyd, y naill am ddaeargryn Lisbon (1755) a’r llall am ei helyntion ei hun. Cewch glywed ychydig o hanes Richard Wyn Jones yn astudio Jôb yn yr ysgol Sul pan oedd yn hogyn ifanc hefyd.
***
The Ballads of the Eighteenth Century
In this episode you’ll get an introduction to the ballads of the eighteenth century, one of the most popular Welsh-language literary forms of the period. Indeed, considering the high number of them which have survived, it’s possible to argue that the ballad was the most popular form of the eighteenth century.
After wrestling a little with the definition, we suggest that the connection between this kind of poem and the printing press is the best way to define the ballad. These ballads were poems to be sung, a fact which raises interesting questions about the relationship between the oral medium and print. While considering a composition by Als Williams, we note that that there are ballads by women who claimed a place in this new publishing industry.
We also look at two ballads by Huw Jones of Llangwm, one about the 1755 Lisbon earthquake and the other about his own problems. You’ll also hear a little about Richard Wyn Jones studying the Book of Job in Sunday school when he was a young lad.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Darllen Pellach/Further Reading: - E. G. Millward (gol.), Blodeugerdd Barddas o Gerddi Rhydd y Ddeunawfed Ganrif (Llandybïe, 1991). - Cathryn Charnell-White (gol.), Beirdd Ceridwen [:] Blodeugerdd Barddas o Ganu Menywod hyd tua 1800 (Llandybïe, 2005). - Siwan Roser, Y Ferch ym Myd y Faled [:] Delweddau o’r Ferch ym Maledi’r Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd, 2005). Baledi Huw Jones o Langwm, wedi’u golygu gan A. Cynfael Lake, ar wefan Prifysgol Abertawe: baledihuwjones.swan.ac.uk.
More from Yr Hen Iaith
Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.
Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.
Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.