Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Canu Aneirin, Awdl 1

Yr Hen Iaith

Show Notes

Trafodwn awdl gyntaf Y Gododdin yn y bennod hon, sef marwnad i Ywain, rhyfelwr a ddisgrifir fel ‘unig fab Marro’. Nodwn fod yr arddull yn foel iawn ond yn hynod bwerus; dyma fardd sy’n gwneud llawer gydag ychydig o eiriau. Dysgwn nifer o bethau am Ywain: roedd yn filwr dewr, bu farw yn y frwydr, ac roedd yn ifanc iawn pan fu farw. * We discuss the first of the Gododdin’s awdlau in this episode, namely an elegy for Ywain, a warrior described as ‘Marro’s only son’. We note that the style is very sparse yet also extremely powerful; here is a poet who does a lot with a few words. We learn a number of things about Ywain: he was a brave soldier, he died in the battle, and he was very young when he died.

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC – golygiad a nodiadau gan yr Athro Peredur Lynch: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned01/02-awdl-i-aneirin.html

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

See all episodes →