Pennod 86 - R. J. Derfel a Brad y Llyfrau Gleision (neu ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!)
Yr Hen IaithShow Notes
(neu, a defnyddio teitl arall a awgrymodd Richard Wyn Jones, ‘Ffeithiau Ffrwydrol am Landderfel’!)
Trafodwn yn gyntaf hanes y ‘Llyfrau Gleision’ a gyhoeddwyd y 1847. Teitl Saesneg cywir yr adroddiadau hyn yw The Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales. Dyma’r cyfrolau drwgenwog sy’n pardduo iaith, moesau a diwylliant Cymru. Canolbwyntiwn wedyn ar waith y bardd o gyffiniau Llandderfel Robert Jones neu ‘R. J. Derfel’, a nodi’i fod yn sosialydd Cymraeg arloesol. Ef a fathodd yr ymadrodd Brad y Llyfrau Gleision, a hynny yn y gwaith llenyddol mentrus a gyhoeddodd yn 1854 sy’n dwyn y teitl hwnnw. Mae’n bryddest fydryddol hir – y gellir ei glaw’n ddrama fydryddol hefyd – sy’n dangos Beelzebub a thrigolion eraill Uffern yn cynllwynio i danseilio’r Cymry. Dyma waith swmpus hwyliog sy’n archwilio sarhâd y Llyfrau Gleision mewn modd syfrdanol o greadigol. ** R. J. Derfel and The Treachery of the Blue Books (or, to use another title suggested by Richard Wyn Jones, ‘Explosive Facts about Llandderfel’!)
We first discuss the history of the ‘Blue Books’ published in 1847. The correct English title of these reports is The Reports of the Commissioners of Inquiry into the State of Education in Wales. These are the infamous volumes which denegrate the language, morals and culture of Wales. We then focus on the work of the poet from the Llandderfel region, Robert Jones or ‘R. J. Derfel’, and note that he was a pioneering Welsh socialist. It was he who coined the phrase Brad y Llyfrau Gleision (‘The Treachery of the Blue Books’), doing so in the daring literary work which he published in 1854 which bears that title. It is a long metrical pryddest – which we might term a metrical drama as well – which shows Beelzebub and other denizens of Hell scheming to undermine the Welsh. This is a substantial and lively work which examines the insult of the Blue Books in an amazingly creative way. Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin ar gyfer Mimosa Cymru Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Darllen Pellach/Further Reading: - Gellir gweld y ‘Llyfrau Gleision’ ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru: https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/arddangosfeydd-arlein/europeana-rise-of-literacy/y-llyfrau-gleision/report-of-the-commissioners-of-inquiry-into-the-state-of-education-in-wales - Gellir darllen gwaith R. J. Derfel, Brad y Llyfrau Gleision ar wefan LlGC hefyd: https://www.library.wales/discover-learn/digital-exhibitions/europeana-rise-of-literacy/plays-and-interludes/brad-y-llyfrau-gleision - R. J. Derfel, Cwyn y Gweithwyr a Cherddi Eraill (Melin Bapur, 2025).
More from Yr Hen Iaith
Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.
Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.
Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.