Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Canu Aneirin, Awdl 24

Yr Hen Iaith

Show Notes

Dyma ni’n trafod marwnad i un arall o ryfelwyr y Gododdin, Buddfan fab Bleiddfan. Nodwn mai ‘arwr’ yw’r gair cyntaf, gan grynhoi’n effeithiol y darlun a gawn yn y llinellau sy’n dilyn. Nodwn hefyd fod y gair olaf, ‘dihafarch’ (‘dewr’) yn crynhoi prif neges y farwnad. Yn debyg i’r awdl gyntaf, disgrifir marwolaeth mewn brwydr yma fel ‘bwydo brain’. Dyma farddoniaeth sy’n ein cymell i weld yr olygfa drist, gan gynnwys y gwaed sy’n gwlychu arfwisg y milwr marw hwn. Pwysleisiwn fod un o’r llinellau hyn – ‘Beirdd byd barnant ŵr [neu ‘wŷr’] o galon’ – yn hoelio sylw ar swyddogaeth gymdeithasol y bardd.

* Here we discuss an elegy to another of the Gododdin’s dead warriors, Buddfan fab Bleiddfan. We note that ‘arwr’ (‘hero’) is the first word, summarizing effectively the picture we get in the following lines. We also note that the last word, ‘dihafarch’ (‘brave’) encapsulates this elegy’s main message. Like the first awdl, death in battle is described here as ‘feeding crows’. This is poetry which urges us to see the sad scene, including the blood soaking this dead soldier’s armour. We stress that one of these lines – ‘Beirdd byd barnant ŵr [‘wŷr’] o galon’ – focusses attention on the poet’s social function.

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC – golygiad a nodiadau gan yr Athro Peredur Lynch: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned01/03-awdl-xxiv-aneirin.html

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

See all episodes →