Show Notes
Edrychwn yn y bennod hon ar y gerdd ‘Aneirin’ gan Iwan Llwyd, gan graffu ar y modd y mae’n cymharu – neu’n cymathu – swydd y bardd a swydd y newyddiadurwr. Trafodwn hefyd y modd y mae’r gerdd yn cymathu rhyfeloedd o wahanol gyfnodau hanesyddol a nodwn fod gan Iwan Llwyd syniadau pendant iawn ynglŷn â swyddogaeth y bardd Cymraeg trwy’r oesau. Eglurwn y cyd-destun hanesyddol a’r berthynas rhwng y math o newyddion a welid ar y teledu pan oedd Iwan Llwyd yn ifanc a chynnwys y gerdd hon. * In this episode we look at the poem 'Aneirin' by Iwan Llwyd, scrutinizing the way in which he compares – or assimilates – the poet's job with the journalist's. We also discuss the way in which the poem assimilates wars from different historical periods and note that Iwan Llwyd has very definite ideas about the function of the Welsh poet through the ages. We explain the historical context and the relationship between the type of news seen on television when Iwan Llwyd was young and the content of this poem.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Deunydd perthnasol: - Nodiadau CBAC: https://hwb.gov.wales/api/storage/31be5bb4-0430-4ab1-aa03-86e4b41d8e6d/Nodiadau%20Iwan%20Llwyd.pdf?preview=true
More from Yr Hen Iaith
Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.
Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.
Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.