Show Notes
Edrychwn yn y bennod hon ar un arall o gerddi Taliesin. Roedd y traddodiad mawl yn cynnwys canu clodydd i arweinwyr a fu farw, a dyma a gawn yn y gerdd bwerus hon. Nodwn fod ‘Marwnad Owain’ yn cyfeirio at y fuddugoliaeth sy’n cael ei dathlu yn y gerdd ‘Gwaith Argoed Llwyfain’; teimlir bod campau go iawn dyn go iawn yn cael eu coffáu yma. Yn ogystal â’i allu milwrol, mae’r bardd yn canmol haelioni Owain. Ac wrth graffu ar y geiriau sy’n agor ac yn cloi’r gerdd, pwysleisiwn ei bod hi’n perthyn i gyd-destun cwbl Gristnogol a bod y farwnad hon yn cyfuno mawl gyda gweddi.
** ‘Elegy for Owain son of Urien’
In this episode we look at another of Taliesin’s poems. The praise tradition including paying tribute to dead leaders, and that’s what we have in this powerful poem. We note that this elegy for Owain refers to the victory celebrated in another of Taliesin’s poems, ‘The Battle of Argoed Llwyfain’; there is a sense that the real feats of a real man are being commemorated here. In addition to his military ability, the bard praises Owain’s generosity. And while considering the words which open and close the poem, we stress that it belongs to an entirely Christian context and that this elegy combines praise with prayer.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes
Deunydd perthnasol: - Adnoddau CBAC wedi’u paratoi gan yr Athro Marged Haycock: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned02/03-marwnad-owain.html https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2009-10/welsh/a-cymraeg/hengerdd/Taliesin/2%20Marwnad%20Owain%20ab%20Urien/MARWNAD%20OWAIN%20AB%20URIEN%20Nodiadau%20geiriau.docx
More from Yr Hen Iaith
Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.
Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.
Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.
Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.