Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith (Lefel A): Sul y Mamau yn Greenham, 1984 gan Menna Elfyn

Yr Hen Iaith

Show Notes

Trafodwn ‘Sul y Mamau yn Greenham, 1984’ gan Menna Elfen yn y bennod hon. Mae Jerry Hunter yn craffu ar strwythur ac arddull y gerdd, gan nodi’r modd y mae’r bardd yn manteisio ar hyblygrwydd y mesur rhydd. Trafoda’r delweddau sy’n ganolog iddi hefyd. Esbonia Richard Wyn Jones y cyd-destun hanesyddol a gwleidyddol, gan egluro rhan ganolog benywod Cymreig yn y protestiadau a geid ger safle milwrol Comin Greenham. * We discuss Menna Elfen's 'Mother's Day at Greenham, 1984' in this episode. Jerry Hunter scrutinizes the structure and style of the poem, noting how the poet takes advantage of the flexibility of free measure. She also discusses the images that are central to her. Richard Wyn Jones explains the historical and political context, explaining the central role of Welsh women in the protests that took place near the Greenham Common military site.

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Deunydd perthnasol: - Nodiadau CBAC: https://resource.download.wjec.co.uk/vtc/2014-15/WJEC-14-15_12/Sul%20y%20Mamau%20yn%20Greenham_1984.docx

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

See all episodes →