Yr Hen Iaith

Yr Hen Iaith (Lefel A) - Trafferth mewn Tafarn

Yr Hen Iaith

Show Notes

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod cywydd hunan-ddychanol enwog Dafydd ap Gwilym. Dyma gerdd storïol ddoniol sy’n disgrifio ymdrech aflwyddiannus i gyfarfod â merch yn hwyr yn y nos, ac wrth adrodd y stori hon mae Dafydd yn dychanu’r union bersona barddol sy’n ganolog i gymaint o’i gywyddau. Ond nodwn fod themâu difrifol yma hefyd, er gwaethaf yr holl hwyl; mae’n bosibl dadlau bod y cywydd hwn yn cyferbynnu cariad cnawdol a chariad ysbrydol a’i fod hefyd yn gyfansoddiad sy’n amlygu tensiynau rhwng y Cymry a’r Saeson.

** ‘Trouble at an Inn’

We have fun in this episode while discussing Dafydd ap Gwilym’s famous self-satirical cywydd. This is a narrative poem which describes an unsuccessful attempt to meet a woman late at night, and by reciting this story Dafydd is satirizing the very bardic persona which is central to so many of his cywyddau. But we note that there are serious themes here as well, despite all of the fun; it’s possible to argue that this cywydd contrasts bodily love with spiritual love and that it is a composition which expresses tensions between the Welsh

Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes

Deunydd perthnasol: - Y testun wedi’i olygu gan yr Athro Dylan Foster: http://resource.download.wjec.co.uk.s3-eu-west-1.amazonaws.com/vtc/2018-19/int18-19_1-4/_cym/uned03/04-trafferth-mewn-tafarn.html - Penodau cyfres 1 Yr Hen Iaith sy’n canolbwyntio ar waith Dafydd ap Gwilym: https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-24-meddwin-niwrbwrch-dafydd-ap-gwilym-rhan-1 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-25-caru-yn-y-coed-dafydd-ap-gwilym-rhan-2 https://amam.cymru/yr-hen-iaith/pennod-26-dychan-hiwmor-a-grym-celf-dafydd-ap-gwilym-rhan-3

More from Yr Hen Iaith

Oct 22, 2026

Gan barhau â thema sy’n hydreiddio penodau diweddar, sef cydberthynas diwylliant llenyddol Cymraeg a gwleidyddiaeth mudiad Cymru Fydd, mae’r bennod hon yn ystyried rhai o gyfraniadau cynnar Owen Morgan Edwards (1858-1920). Ac yntau’n diwtor hanes yn Rhydychen, disgwylid iddo gyhoeddi ymchwil o bwys yn ei faes arbenigol, sef cyfnod y Dadeni Dysg a’r Diwygiad Protestannaidd, ond Cymraeg oedd iaith y rhan fwyaf o’i ysgrifau a defnyddiodd ei wybodaeth am hanes Ewrop a Chymru er mwyn llunio ysgrifau poblogaidd sy’n hyrwyddo agenda genedlaetholgar.

Oct 8, 2026

Yn wrthbwynt trawiadol i bryddestau hirwyntog y ‘Beirdd Newydd’ a drafodwyd yn y bennod ddiwethaf, dechreuwn y tro hwn gydag awdl gain John Morris-Jones (1864-1929), ‘Cymru Fydd’. Ond wrth bwysleisio’r ceinder a’r cynilder sy’n nodweddu cerddi JMJ, rhaid oedi eto a thrafod cydberthynas y mudiad cenedlaetholgar hwnnw a llenyddiaeth Gymraeg y 1890au. Gwelwn dinc iwtopaidd yn yr awdl hon yn ogystal â beirniadaeth lem ar gyfalafiaeth.

Sep 24, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth edrych ar ysgrif gan ‘Elphin’ (Robert Arthur Griffith, 1860-1936) a gyhoeddwyd yn Y Geninen yn 1895.

Sep 10, 2026

Trafodwn William Thomas (1832-1878) yn y bennod hon, bardd sy’n cael ei gofio fel ‘Islwyn’.

Aug 27, 2026

Cawn hwyl yn y bennod hon wrth drafod campwaith dychanol Daniel Owen, Profedigaethau Enoc Huws.

See all episodes →